Yn ei gyfarfod ar 23 Mehefin, bydd Cabinet Cyngor Sir Powys yn ystyried cynnydd a wnaed yn erbyn Safonau’r Gymraeg.
Dan Fesur y Gymraeg (Cymru) 2011, mae’n rhaid i’r Cyngor gyhoeddi Adroddiad Blynyddol sy’n amlinellu ei weithgareddau wrth sicrhau ei fod yn cydymffurfio â’r Safonau.
Mae’r adroddiad blynyddol yn amlinellu gwaith y Cyngor wrth gydymffurfio â Safonau’r Gymraeg, sy’n cynnwys cyflwyno gwasanaethau i’r cyhoedd yn y Gymraeg, ystyried effaith ei gynigion a’i benderfyniadau ar y Gymraeg, darparu gwybodaeth, cyfleoedd a chymorth i alluogi staff i wneud mwy o waith trwy gyfrwng y Gymraeg, a gwaith i hyrwyddo a chynyddu’r defnydd o’r Gymraeg o fewn y sir.
Mae hefyd yn cynnwys data ar sgiliau Cymraeg y gweithlu, nifer y staff sy’n gwneud hyfforddiant trwy gyfrwng y Gymraeg a’r sgiliau Cymraeg sydd eu hangen ar swyddi sy’n cael eu hysbysebu gan y Cyngor dros y flwyddyn.
Mae rhan olaf yr adroddiad yn sôn am gwynion a dderbyniwyd gan y cyngor o ran cydymffurfio â Safonau’r Gymraeg, y gwasanaethau sy’n cael eu cynnig trwy gyfrwng y Gymraeg a’r ymchwiliadau sy’n cael eu cynnal gan y Comisiynydd Iaith, ynghyd â’r camau a wnaed gan y cyngor i wella’r ffordd y mae’n darparu gwasanaethau Cymraeg ac yn ystyried y Gymraeg o fewn y prosesau gwneud penderfyniadau, a mynd i’r afael ag unrhyw achosion o fethu cydymffurfio â’r Safonau.
Dywedodd y Cynghorydd Myfanwy Alexander, Aelod Portffolio, Gofal Cymdeithasol i Oedolion a’r Gymraeg: “Rydym yn gweithio’n gyson i wella statws y Gymraeg ym Mhowys ac fel awdurdod, rydym yn awyddus i arwain o’r blaen. Rydym wedi gwneud camau mawr ond yn cydnabod bod mwy i’w wneud. Mae’r adroddiad hwn wedi rhoi rheswm i ni ddathlu ac i adlewyrchu’n ddifrifol am y gwaith sydd gennym i’w wneud eto.”
Bydd yr adroddiad yn cael ei gyhoeddi ar wefan gyhoeddus y Cyngor ar ôl derbyn sêl bendith y Cabinet.






Comments
This article has no comments yet. Be the first to leave a comment.