Mewn rhaglen arbennig ar gyfer Radio Cymru 2, ac fel rhan o Wyl AmGen BBC Cymru, mae Rhys Ifans yn rhannu ei brofiadau personol ac ailgysylltu gyda’r byd o’i gwmpas yn ystod y cyfnod clo.

Tra’n byw mewn fflat ar ei ben ei hun y tu ôl i orsaf Waterloo, heb ardd, ar lannau’r Tafwys, roedd yr actor yn paratoi ar gyfer y ddrama ‘To Kill a Mockingbird’, stori am hiliaeth yn America. Fis yn ddiweddarach, dechreuodd y cyfnod clo. Mae Rhys Ifans yn datgelu ei brofiadau ar Radio Cymru 2 brynhawn Gwener, 31 Gorffennaf am 4 o’r gloch.

“Yn reddfol, mewn sefyllfa fel yna mae rhywun yn dueddol o eisiau bod adre, yn gyntaf oll, wrth gwrs, gyda fy Mam, oedd hefyd yn byw ar ei phen ei hun ac ro’n i’n meddwl dw i eisiau bod yn agos at fy nheulu a ffrindiau, so ro’dd ’na dynfa i fynd nôl i Gymru. Ond roedd hynna wrth gwrs yn amhosib. Doedd gynna i ddim opsiynau i wneud hynna ac ro’n i’n digwydd bod yn y fflat yma yn Llundain a dyna lle arhosais i.

“Mae bod mewn dinas fawr, un o ddinasoedd mwyaf y byd, pan fod rhywbeth cataclismaidd yn digwydd yn poeni rhywun. Mae rhywun wedi edrych ar y ffilmiau rhith diwedd y byd, apocalypsis hyn a’r llall, a rhywun yn rhagweld dyna fydd y tirwedd am y misoedd i ddod. Ond a dweud y gwir, o edrych nôl mi o’n i’n falch mewn ffordd, neu mi oedd o’n anrhydedd cael bod yn Llundain yn ystod y cyfnod yma. Dw i’n meddwl mai’r rheswm pennaf i fi oedd cael bod yn dyst i’r ddinas yma am y tro cyntaf, ers cannoedd o flynyddoedd, cael gweld y lle mewn hedd a thawelwch. Mi oedd o’n ysgytwol, mi oedd o’n ddramatig, mi oedd o’n instant fel wnaeth y lockdown effeithio Llundain.

“Dros nos fe wnaeth y lle dawelu yn gyfan gwbl. Mae rhywun yn wirioneddol deimlo fel cerdded y strydoedd gwag, fy mod i a hanes yn cerdded law yn llaw, rhywsut. O’r blaen roedd hanes yn rhywbeth oedd yn digwydd i bobl eraill, neu oedd wedi digwydd yn y gorffennol, ond yn sydyn iawn, roedd hanes yn digwydd yn y presennol.

“Mi oedd o’n brofiad monastig iawn. Wnes i’n siwr bod genna i ddefod ddyddiol. Fe wnes i gychwyn rhedeg. Dw i erioed wedi rhedeg os nad wy’n cael fy nhalu, neu wedi torri’r gyfraith. Am y tro cynta fe wnes i actually cael y buzz yna mae pawb sy’n rhedeg yn sôn am, y teimlad yna fod dy gorff di yn effro, rhywsut. Roedd hwnna’n deimlad bendigedig. Rwy’n dal i redeg. So habits newydd wedi eu cychwyn ac yn parhau i fod. Ro’n i’n bwyta’n iach iawn. Ro’n i’n meddwl mae rhaid i fi wneud penderfyniad. Ydw i’n mynd i fynd lawr llwybr Toblerone neu mynd i lawr llwybr brocoli. Fe wnes i ddewis y llwybr brocoli.

“Dw i’n meddwl, i fi, yr anrhydedd o gael bod mewn dinas oedd yn newid yn ddramatig dros nos. Ro’n i’n gweld Llundain fel math o courtesan enfawr sydd wedi bod yn diddanu ac yn gweithio ac yn llafurio am ganrifoedd, ac am y tro cyntaf, mi oedd hi’n cael cyfle i orwedd nôl ar ei chaise lounge tra bod y llanw yn y Thames yn codi ac yn disgyn. Ac ro’n i’n gweld y Thames bob dydd oherwydd fe wnaeth y Thames droi fewn i ryw fath o ysgyfaint, os lici di, i’r ddinas yma. Oedd gwylio’r llanw yna’n mynd a dod yn fetaffor mawr iawn ac wrth gwrs roedd anadlu yn thema, yn rhywbeth oedd ar feddwl pob bod byw yn ystod y cyfnod yma. A hefyd fod y llanw ’ma wedi mynd a dod, mynd a dod am ganrifoedd a bod y ddinas fawr yma, bod y courtesan wedi gweld sawl pla yn mynd a dod trwy ei strydoedd hi. Fe ddaeth y mantra ‘mynd a dod mae pob dim, mynd a dod mae pob dim, mynd a dod mae pob dim…’ Fe ddaeth hwnna yn rhyw fath o fantra bach personol i fi. Roedd e’n dod â chysur mawr achos mae o’n wir. Does gynna ni ddim syniad beth mae’r dyfodol yn mynd i ddod, beth sydd yna o’n blaenau ni, ac mae yna gysur i’w gymryd o hynna, o wybod, o fod yn sicr nad ydan ni’n gwybod beth sy’n mynd i ddigwydd, ddim i ofni fo, jyst bod yn sicr. Mae hwnna’n ffaith. Ac roedd cysur mawr o fyw gyda’r ffaith yna.”

Roedd y cyfnod clo yn ddeffroad synhwyrau i Rhys Ifans a’r teimlad iasol, “kenopsia”, o fod mewn lle gwag, sy’n arfer bod yn llawn pobl, yn deimlad cyson iddo.

Yn ystod y cyfnod clo bu’n cadw mewn cysylltiad gyda’i fam yn Rhuthin yn ddyddiol ac mae’n canmol cefnogaeth y gymuned.

“Ro’n i’n ffonio Mam ddwywaith y dydd, yn y bore a’r prynhawn. Roedd Mam ar ei phen ei hun hefyd ac ro’n i’n torri fy mol eisiau gweld hi. Roedd Mam yn gweld can gwaith mwy o bobl na fi. Mae hi’n byw mewn stad o dai yn Rhuthin ac mae ei chymdogion hi yn anhygoel. Mae hi wedi cael gofal arbennig. Mae rhywun yn cofio hynna wrth fyw yn Llundain yn ystod y pandemig, be ydy gwerth cymuned. Fedra i ddim diolch digon i’w chymdogion a phobl Rhuthin am roi cymaint o ofal a chariad iddi dros yr amser. Fe wnaeth hynna wneud fy lockdown i lot haws.”

Ar ôl gwerthfawrogi’r profiad o weld Llundain mewn golau newydd yn ystod y cyfnod clo, ac yn hel atgofion wrth grwydro’r ardaloedd sydd wedi bod yn gartref iddo dros y blynyddoedd, fe gafodd llofruddiaeth George Floyd effaith fawr arno.

“Roedd yr eironi yn od, fy mod i wedi dechrau’r lockdown yma rhywsut yn trwytho fy hun yn hanes hiliaeth yn America ac yn sydyn iawn, mi oedd yr hiliaeth yna yn digwydd o mlaen i, ar y pryd ac mi wnaeth o’n ysgwyd i nôl i’r presennol mewn ffordd anhygoel.”