Os ydych chi’n meddwl bod angen cymorth arnoch gan Wasanaethau Oedolion, peidiwch ag oedi rhag cysylltu. Dyna’r neges gan Gyngor Sir Powys wrth iddyn nhw weld llai o bobl yn cysylltu am wybodaeth a chyngor yn ystod y pandemig.
Mae tîm Gwasanaethau Oedolion y cyngor yn dweud bod pobl yn oedi cyn cysylltu â’r gwasanaeth yn ystod y pandemig ac yna pan y maen nhw’n gwneud hynny, yn aml maen nhw wedi cyrraedd pen eu tennyn.
Esboniodd y Cynghorydd Myfanwy Alexander sy’n Aelod Cabinet gyda chyfrifoldeb dros Ofal Cymdeithasol Oedolion: "Er nad ydym yn gallu addo ’busnes fel arfer’ yn ystod yr argyfwng COVID-19, mae’r timoedd Gwasanaethau Oedolion yn gwneud eu gorau glas i helpu cymaint o bobl ag sy’n bosibl. Rydym yn pryderu nad yw pobl yn cysylltu â ni am gymorth ar hyn o bryd, efallai oherwydd nad ydynt am orlwytho ein gwasanaethau. Hoffwn gymryd y cyfle hwn i sicrhau trigolion Powys ein bod ni’n fwy na pharod i ymateb i ymholiadau newydd a gorau po gyntaf yr ewch ati i ofyn help. P’un ai os ydych angen cyngor neu gymorth eich hunan neu os oes gennych bryderon am gymydog, cyfaill neu berthynas, gwnewch yn siwr eich bod yn cysylltu: ry’n ni yma i helpu.’"
Ychwanegodd Michael Gray, Pennaeth Gwasanaethau Oedolion gyda’r cyngor: "Mae yna rai gwasanaethau ni allwn yn ymarferol eu cynnig yn ystod y pandemig hwn ond mae yna lawer y gallwn ni wneud. Peidiwch â phryderu am gysylltu â ni. Gallwn siarad â chi am yr hyn sy’n bwysig i chi, a’r cymorth sydd ei angen arnoch, ac yna fe wnawn weithio gyda chi i roi pethau yn eu lle."
Gallwch gysylltu â thîm Gwasanaethau Oedolion y cyngor fel a ganlyn:
Gwasanaethau ar gyfer Oedolion (CYMORTH) - 0345 602 7050 neu anfonwch e-bost at [email protected]
"Rydym yn clywed adroddiadau am ddefnyddwyr gwasanaeth sydd ddim yn cysylltu â ni am gymorth cynnar am amrywiaeth o resymau. Pan fyddan nhw’n cysylltu mae eu sefyllfa yn aml yn ddifrifol. Rydym yn deall bod y gwasanaeth iechyd yn gweld sefyllfa debyg ar gyfer materion iechyd nad ydynt yn gysylltiedig â Covid19."
"Mae ein timoedd yn darganfod gwahanol ffyrdd i barhau i gefnogi pobl. Er enghraifft, mae ein Therapyddion Galwedigaethol yn defnyddio ffonau clyfar i wneud asesiadau o bell ar gyfer pobl a allai fod angen cyfarpar ac addasiadau (e.e rheiliau llaw) I’w helpu o amgylch eu cartrefi," ychwanegodd. "Ac mae ein timoedd cymorth synhwyraidd yn postio cyfarpar i bobl Powys sydd angen help gyda nam ar y golwg/nam ar y clyw."
Os byddai’n help i unrhyw ddefnyddiwr gwasanaeth, mae’r tîm yn gallu gwneud galwad wyneb yn wyneb trwy ddefnyddio Skype i wneud galwadau fideo.
Mae’r cyngor yn gweithio’n agos gyda’r sector gwirfoddol - Cymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Powys (PAVO) sy’n cydlynu gofalwyr gwirfoddol yn y sir - felly mae adnodd ar gael i helpu ar lefelau amrywiol.
Mae’r gwasanaeth yn ymwybodol bod y sefyllfa bresennol yn arbennig o anodd i ofalwyr oedd wedi manteisio ar seibiant preswyl yn flaenorol gyda’r mynediad yn gyfyngedig ar hyn o bryd. Er bod seibiant preswyl yn anodd i’w ddarparu ar hyn o bryd byddai’r cyngor yn annog gofalwyr i gysylltu er mwyn i ni allu cynnig cyngor a chymorth.
Mae’r gwasanaeth hefyd yn ymwybodol bod rhai pobl wedi bod â threfniadau gofal anffurfiol yn eu lle - yn daladwy neu fel arall - a allai fod yn annibynadwy ar hyn o bryd. "Os ydych chi’n teimlo bod angen cymorth gofalu arnoch ar hyn o bryd, cysylltwch â ni ar 0345 602 7050 ac fe wnawn ein gorau i weld beth y gallwn ei wneud i’ch helpu," ychwanegodd Michael.






Comments
This article has no comments yet. Be the first to leave a comment.