Bydd cynlluniau ar gyfer Ysgol Gynradd cyfrwng-Cymraeg newydd yng ngogledd Powys yn cael eu cyflwyno gan y Cyngor Sir yn ddiweddarach y mis hwn.

Mae’r cynlluniau i godi ysgol i 150 o ddisgyblion, ynghyd â chyfleusterau cymunedol ar gyfer ysgol Gymraeg y Trallwng yn y Trallwng, ysgol a sefydlwyd yn 2017 yn dilyn proses ad-drefnu.

Bydd hwn yn brosiect blaenllaw i’r Cyngor, gyda’r adeilad yn un o’r ysgolion 21ain ganrif cyntaf ym Mhowys a fydd yn integreiddio’r hen a’r newydd, yr hanesyddol a’r modern.

Bydd y prosiect hwn yn helpu’r cyngor wireddu ei Strategaeth ar gyfer Trawsnewid Addysg ym Mhowys, strategaeth uchelgeisiol 10 mlynedd a gafodd sêl bendith eleni (Ebrill).

Bydd yr ysgol newydd yn cael ei chodi ar hen safle ysgol Maesydre, a bydd hen adeilad rhestredig gradd II, sydd ar hyn o bryd yn gartref i ysgol gynradd yr Eglwys yng Nghymru y Trallwng, yn cael ei adnewyddu i ddarparu cyfleusterau blynyddoedd cynnar a chymunedol. Bydd estyniad newydd yn cael ei adeiladu i gynnwys neuadd yr ysgol ac ystafelloedd dosbarth newydd.

Yr adeilad hwn hefyd fydd y prosiect hybrid Passivhaus cyntaf yn y DU.

Dywedodd y Cynghorydd Phyl Davies, yr Aelod Portffolio ar faterion Addysg ac Eiddo: "Mae’r rhain yn gynlluniau cyffrous a fydd yn rhoi cyfleusterau’r 21ain ganrif i’n dysgwyr ac ar yr un pryd yn gwarchod ac yn moderneiddio adeilad rhestredig gradd II i gymuned y Trallwng ei ddefnyddio.

"Mae gennym strategaeth i weddnewid addysg ym Mhowys ac mae adeilad newydd ysgol Gymraeg Y Trallwng yn dangos ein hymrwymiad i gyflawni’r strategaeth bwysig hon. Pan fydd yr adeilad wedi’i gwblhau, bydd yn darparu amgylchedd dysgu a fydd yn galluogi dysgwyr a staff addysgu i ffynnu a chyrraedd eu potensial drwy gyfrwng y Gymraeg.”

Dywedodd Lindsey Phillips, Cadeirydd y Llywodraethwyr yn Ysgol Gymraeg Y Trallwng: “Ers sefydlu Ysgol Gymraeg Y Trallwng yn 2017, mae cynnydd sylweddol yn natblygiad a’r safon ynghlwm ag addysg Gymraeg. Mae adroddiad Estyn diweddaraf yr ysgol yn cadarnhau hyn. Ond fel Corff Llywodraethol, ysgol a chymuned ehangach, rydym nawr yn edrych ymlaen yn fawr at y cam nesaf o’r datblygiad, ac i’r gwaith adeiladu ar gyfer ein lleoliad newydd i symud yn ei flaen.

“Mae’r cynlluniau cyffrous, nid yn unig yn adeilad addysgu cyfoes, ond yn adnodd ardderchog i’r gymuned ehangach, a chyfle i ddathlu ac adnewyddu adeilad pwysig yn hanes y Trallwng.”

Dywedodd Angharad Davies, Pennaeth Ysgol Gymraeg Y Trallwng: “Dyma yn union beth sydd angen ar Ysgol Gymraeg Y Trallwng i ddatblygu a ffynnu addysg ac iaith Gymraeg yr ardal ymhellach. Mi fydd yr adeilad yma yn rhoi cyfleoedd unigryw a gwerthfawr i bawb sydd ynghlwm â’r ysgol a Thrallwng.

“Mi fydd yr adeilad yn rhoi mynediad i fyd o ryfeddodau a chreadigrwydd sy’n ysgogi pawb a phopeth. Mae dyfodol disglair ar y gweill.”

Rhagwelir y bydd y gwaith adeiladu’n dechrau ar ôl i brosiect ysgol gynradd yr Eglwys yng Nghymru y Trallwng gael ei gwblhau.

Mae prosiect adeiladu’r ysgol yn cael ei ariannu gan raglen Ysgolion yr 21ain Ganrif Llywodraeth Cymru a chaiff 50% ei ariannu gan Gyngor Sir Powys. Mae’r prosiect yn cael ei gyflwyno mewn partneriaeth â Gwasanaethau Eiddo Calon Cymru.